Croeso i wefan hyfforddi alergedd bwyd yr
Asiantaeth Safonau Bwyd.
Ewch ati i astudio'r modiwlau a phasio'r profion er mwyn ennill tystysgrif datblygiad proffesiynol parhaus
(Continuous Professional Development neu CPD). Mae'r Asiantaeth wedi datblygu'r hyfforddiant hwn ar gyfer
swyddogion gorfodi. Fodd bynnag, mae'n bosibl y bydd hefyd o ddiddordeb i weithredwyr busnesau bwyd, y rheiny sy'n
gwerthu neu gynhyrchu bwyd neu unrhyw un arall sydd am ddysgu rhagor am alergeddau bwyd.
Cam 1: Astudio'r modiwlau
Mae chwe modiwl i'w hastudio, â phrawf ar gyfer pob un. Mae'r modiwlau hyn yn trafod:
Cam 2: Cofrestru a chwblhau'r profion
Ar ôl i chi gofrestru a mewngofnodi i’r safle, bydd modd i chi gael mynediad at y profion,
naill ai drwy glicio ar y faner ar waelod tudalen pob modiwl neu drwy eich dangosfwrdd CPD.