Skip navigation

Rheolau alergenau

  • Rhaid nodi cynhwysion alergenaidd ar y rhestr gynhwysion gan gyfeirio'n glir at enw'r sylwedd neu'r cynnyrch fel y mae'n ymddangos yn Atodiad II o Reoliad Gwybodaeth am Fwyd i Ddefnyddwyr yr UE Rhif 1169/2011 a Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (UE) Rhif 78/2014 sy’n diwygio Atodiad II i Reoliad (UE) Rhif 1169/2011. Mae Atodiad II yn amlinellu'r 14 o alergenau (a'u cynhyrchion) y mae'n rhaid eu labelu neu nodi eu bod yn bresennol mewn bwyd, sef:
    • Grawnfwydydd (cereals) sy'n cynnwys glwten, sef: gwenith (megis gwenith yr Almaen a gwenith khorasan), rhyg, haidd, ceirch
    • Cramenogion (crustaceans), er enghraifft corgimychiaid, crancod, cimychiaid, cimychiaid yr afon
    • Wyau
    • Pysgod
    • Pysgnau
    • Ffa soia
    • Llaeth (gan gynnwys lactos)
    • Cnau, sef: cnau almon, cnau cyll, cnau Ffrengig, cnau cashew, cnau pecan, cnau Brasil, cnau pistasio, cnau macadamia (neu Queensland)
    • Seleri (gan gynnwys seleriac)
    • Mwstard
    • Sesame
    • Sylffwr deuocsid/sylffitau, lle cânt eu hychwanegu ac ar lefel sy’n fwy na 10mg/kg yn y cynnyrch terfynol. Fe’u ceir fel cyffeithyddion mewn ffrwythau sych
    • Bys y blaidd (lupin), sy’n cynnwys hadau a blawd bys y blaidd ac fe’u ceir yn aml mewn mathau o fara, toesenni a phasta
    • Molysgiaid (molluscs), fel cregyn gleision, cregyn moch, wystrys, malwod a sgwid
  • Rhaid pwysleisio'r cynhwysion alergenaidd gan ddefnyddio teipysgrif sy'n gwahaniaethu’n glir rhyngddo â gweddill y cynhwysion, er enghraifft drwy'r ffont, yr arddull neu liw'r cefndir. Gall busnesau bwyd ddewis pa ddull y maent am ei ddefnyddio i bwysleisio'r 14 gwahanol alergen ar label eu cynnyrch.
  • Pan nad oes gofyn darparu rhestr gynhwysion ar gynnyrch, megis potel o win, rhaid datgan unrhyw gynhwysion alergenaidd sydd yn y cynnyrch hwnnw drwy gyfrwng datganiad ‘yn cynnwys' (contains), wedi'i ddilyn gan enw'r sylwedd alergenaidd fel y caiff ei restru yn Atodiad II a Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (UE) Rhif 78/2014 sy’n diwygio Atodiad II i Reoliad (UE) Rhif 1169/2011.
  • Lle bo nifer o gynhwysion neu gymhorthion prosesu mewn bwyd yn deillio o un cynhwysyn alergenaidd, dylai'r label nodi hynny ar gyfer bob cynhwysyn neu gymorth prosesu dan sylw. Er enghraifft, powdwr llaeth sgim, maidd (llaeth), lactos (llaeth).
  • Lle bo enw'r bwyd (megis bocs o wyau neu fag o bysgnau) yn cyfeirio'n glir at y cynhwysion alergenaidd dan sylw, nid oes angen datganiad ar wahân ar gyfer y bwyd alergenaidd.
  • Lle bo bwyd yn cael ei werthu i'r defnyddiwr terfynol neu i arlwywyr torfol heb ei becynnu, neu lle bo bwyd yn cael ei becynnu ar y safle gwerthu yn ôl cais y defnyddiwr neu yn cael ei becynnu ymlaen llaw i'w werthu'n uniongyrchol, mae gwybodaeth am gynhwysion alergenaidd yn orfodol ac mae'n rhaid ei darparu.
  • Mae'n rhaid i wybodaeth am alergenau gael ei darparu yn ysgrifenedig neu ar lafar gydag arwyddion clir sy'n dangos i ddefnyddwyr ble y gallant ddod o hyd i'r wybodaeth hon, os nad yw'r wybodaeth yn cael ei darparu yn y fan a'r lle.
Yn ôl i'r brig

Gweithredu'n gyfreithlon

Mae yna gyfundrefn gyfreithiol droseddol a chyfundrefn gyfreithiol sifil sy’n berthnasol o ran gwerthu bwyd sy’n cynnwys alergenau a darparu rhestrau 'heb alergenau' (allergen-free). Mae’n hanfodol rhoi ystyriaeth ofalus i’r rhain.

Isod gwelir amlinelliad byr o’r prif ddarpariaethau i helpu gweithgynhyrchwyr i wybod eu rhwymedigaethau o dan y gyfraith. Mae’r amlinelliad hefyd yn awgrymu’r camau priodol i’w cymryd o ran arferion gweithgynhyrchu da a darparu gwybodaeth i ddefnyddwyr.

Dylai gweithgynhyrchwyr geisio’u cyngor cyfreithiol eu hunain fel y bo’n briodol.

Mae Rheoliad Gwybodaeth am Fwyd i Ddefnyddwyr yr UE (EU FIC) yn newid y ffordd y mae gwybodaeth am alergenau yn ymddangos ar labeli ac ar fwyd sydd wedi’i becynnu ymlaen llaw, sy’n cael ei werthu’n rhydd neu sy’n cael ei weini wrth i bobl fwyta allan. Mae FIC yr UE yn dwyn ynghyd rheolau labelu cyffredinol a labelu maeth ynghyd ac yn symleiddio ac yn atgyfnerthu deddfwriaeth labelu bresennol mewn un fframwaith.

Mae’r rheoliad yn adeiladu ar y darpariaethau labelu alergenau blaenorol ar gyfer bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw yn ogystal ag ymestyn y broses o ddarparu gwybodaeth am alergenau i fwyd a gaiff ei werthu heb ei becynnu ymlaen llaw neu fwyd sydd wedi’i becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol.

Yn ôl i’r brig

Diffiniadau

Safle arlwyo/arlwywr torfol (Mass caterer/Catering establishment)

Gall hwn fod yn fwyty, ffreutur, clwb, tafarn, ysgol, ysbyty neu safle tebyg (gan gynnwys cerbyd neu stondin symudol neu stondin osod) er enghraifft lle, yng nghwrs busnes, caiff bwyd ei baratoi er mwyn bod yn barod i’w fwyta gan y defnyddiwr terfynol.

'Bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw' (Prepacked food)

Mae bwyd sydd wedi’i becynnu ymlaen llaw yn fwyd sydd wedi’i roi mewn deunydd pecynnu cyn cael ei werthu (i’r defnyddiwr terfynol neu i arlwywyr torfol), lle nad oes unrhyw gyfle i’r cynhyrchwr gyfathrebu’n uniongyrchol â’r cwsmer, a lle nad oes modd addasu’r cynnwys heb agor neu newid y deunydd pecynnu. Er enghraifft, bydd y rhan fwyaf o fwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw a werthir mewn archfarchnadoedd yn dod o dan y diffiniad hwn, megis bwyd tun, prydau parod neu gynhyrchion bwyd wedi’u rhewi.

'Bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol' (Prepacked for direct sale)

Yn gyffredinol, mae’r term hwn yn golygu’r bwydydd hynny a gaiff eu pecynnu a’u gwerthu ar yr un safle. Mewn sefyllfaoedd o’r fath, fel arfer mae modd i’r cwsmer siarad â’r sawl sydd wedi paratoi/pecynnu’r bwyd i holi am y cynhwysion. O’r herwydd, nid oes gofyniad cyfreithiol i nodi cynhwysion y bwydydd hyn ar y label. Mae bwyd a all berthyn i’r categori hwn yn cynnwys pasteiod cig wedi’u paratoi ar y safle a brechdanau wedi’u paratoi a’u gwerthu (wedi’u pecynnu neu heb eu pecynnu ymlaen llaw) o’r safle y cawsant eu paratoi.

'Bwyd heb ei becynnu ymlaen llaw' (Bwyd rhydd) (Non-prepacked food)

Yn aml, caiff bwyd nad yw wedi’i becynnu ymlaen llaw ei alw’n fwyd sy’n cael ei werthu’n rhydd. Mewn amgylchedd manwerthu, mae hyn yn cynnwys unrhyw fwyd sy’n cael ei werthu’n rhydd o gownter deli (e.e. cig oer, caws, quiche, pasteiod a dips), pizza ffres, pysgod, bariau salad, bara sy’n cael ei werthu mewn siopau bara ac ati. Mewn amgylchedd arlwyo, mae hyn yn cynnwys bwyd sy’n barod i’w fwyta megis prydau sy’n cael eu gweini mewn bwyty, caffi neu siop tecawê.

Yn ôl i’r brig

Cyfraith Trosedd

Cafodd y Rheoliadau a oedd yn gweithredu gofynion Cyfarwyddeb 2003/89/EC a Chyfarwyddeb 2007/68/EC ar gyfer labelu bwydydd alergenaidd, neu fwydydd sy’n deillio ohonynt, fel cynhwysion mewn bwydydd wedi’u pecynnu ymlaen llaw eu dirymu ar 13 Rhagfyr 2014 ymlaen.

Mae Rheoliad Gwybodaeth am Fwyd i Ddefnyddwyr yr UE Rhif 1169/2011 yn dirymu Cyfarwyddeb 2000/13/EC fel y’i diwygiwyd gan Gyfarwyddebau 2003/89/EC a 2007/68/EC. Mae FIC yr UE yn cael ei orfodi yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon gan Reoliadau Gwybodaeth am Fwyd 2014 (mae gan bob gwlad ei fersiwn ei hun sydd yr un peth i raddau helaeth). Mae’r rhain yn darparu ar gyfer datgan bwydydd alergenaidd penodol a gaiff eu defnyddio fel cynhwysion mewn bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw, bwyd heb ei becynnu ymlaen llaw a bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol. Dirymodd Rheoliad Gwybodaeth am Fwyd 2014 y rheoliadau sy’n gweithredu Rheoliadau Labelu Bwyd (Datgan Alergenau) 2008 ac yn darparu’r grymoedd ar gyfer gofynion FIC yr UE. Awdurdodau bwyd ac awdurdodau iechyd porthladdoedd sy’n gyfrifol am orfodi’r rheoliad o fewn eu hardaloedd penodol.

Erthygl 14 o Reoliad CE 178/2002 (Rheoliad y Gyfraith Fwyd Gyffredinol)

Mae’r ddarpariaeth hon yn gymwys ers 1/1/2005. Mae paragraff (1) yn gwahardd bwyd anniogel rhag cael ei roi ar y farchnad. At ddibenion y Rheoliad, ystyr ‘rhoi ar y farchnad’ yw dal bwyd er mwyn ei werthu, gan gynnwys cynnig gwerthu neu unrhyw fath arall o drosglwyddo, yn rhad ac am ddim neu beidio, a gwerthu, dosbarthu, a mathau eraill o drosglwyddo eu hunain. Bernir bod bwyd yn anniogel os yw’n niweidiol i iechyd neu heb fod yn ffit i’w fwyta gan bobl, ac mae Erthygl 14 yn cynnwys darpariaethau ar gyfer pennu a yw bwyd yn syrthio o fewn y gwaharddiad hwn.

Mae paragraffau (3) a (4) o’r erthygl hon yn arbennig o berthnasol (yn yr iaith wreiddiol):

"(3) In determining whether any food is unsafe, regard shall be had:

a) to the normal conditions of use of the food by the consumer and at each stage of production, processing and distribution, and

b) to the information provided to the consumer, including information on the label, or other information generally available to the consumer concerning the avoidance of specific adverse health effects from a particular food or category of foods."

"(4) In determining whether any food is injurious to health, regard shall be had:

a) not only to the probable immediate and/or short-term and/or long-term effects of that food on the health of a person consuming it, but also on subsequent generations;

b) to the probable cumulative toxic effects;

c) to the particular health sensitivities of a specific category of consumers where the food is intended for that category of consumers."

(Gweler y nodiadau cyfarwyddyd drwy food.gov.uk – Canllawiau ar Labelu Alergenau a Darpariaethau Labelu Amrywiol.)

Mae’n rhaid ystyried amrywiaeth o feini prawf, gan gynnwys gwybodaeth sy’n cael ei rhoi i’r defnyddiwr am osgoi’r effeithiau andwyol penodol ar iechyd a gaiff bwyd neu gategori o fwydydd (gweler Erthygl 14(3)(b)); a hefyd sensitifrwydd iechyd neilltuol categori penodol o ddefnyddwyr os yw’r bwyd wedi’i fwriadu’n unswydd ar gyfer y categori hwnnw (gweler Erthygl 14(4)(c)). Yng nghyd-destun alergeddau, mae hyn yn cyfeirio’n arbennig at fwydydd sy’n cael eu gwerthu ar y sail eu bod heb alergenau penodol neu eu bod yn addas i bobl ag anghenion iechyd penodol (er enghraifft, y bobl hynny sydd â chlefyd seliag). (Gweler adran 3.3.2).

Erthygl 16 o Reoliad CE 178/2002 (Rheoliad y Gyfraith Fwyd Gyffredinol)

Mae’r erthygl hon yn gorchymyn na ddylai labeli, hysbysebion a chyflwyniad bwyd, gan gynnwys yr wybodaeth sydd ar gael, gamarwain defnyddwyr.

Mae’r erthyglau hyn yn cael eu gorfodi ym Mhrydain Fawr drwy gyfrwng Rheoliadau Bwyd Cyffredinol Rhif 3279/2004. Mae rheoliadau cyfatebol ar waith yng Ngogledd Iwerddon1.

Adran 14 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (Erthygl 13 o Orchymyn Diogelwch Bwyd (Gogledd Iwerddon) 1991)

Mae’r ddarpariaeth hon yn ei gwneud yn dramgwydd i unrhyw un werthu, er niwed i’r prynwyr, unrhyw fwyd nad yw o’r natur, sylwedd neu ansawdd a fynnir gan y prynwr.

Adran 15 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (Erthygl 14 o Orchymyn Diogelwch Bwyd (Gogledd Iwerddon) 1991)

Mae’r ddarpariaeth hon yn ei gwneud yn dramgwydd i ddisgrifio neu gyflwyno bwyd mewn modd ffug. Yn fwy penodol, mae’n dramgwydd i labeli bwyd fod yn ffug neu’n debyg o gamarwain ynghylch natur, sylwedd neu ansawdd y bwyd. Mae’r adran hefyd yn berthnasol mewn perthynas â hysbysebu a chyflwyno bwyd.

Mae’n dal yn cael ei dderbyn yn eang y dylai unigolion sy’n dioddef adweithiau alergaidd i fwydydd penodol ofalu eu bod yn craffu ar labeli bwyd yn fwy gofalus na defnyddiwr arferol.

Gorfodi

Dylid nodi mai drwy’r awdurdodau gorfodi lleol y caiff y ddeddfwriaeth trosedd ei gorfodi. Byddai’n ddoeth i weithgynhyrchwyr roi gwybod i’w swyddogion lleol am y mesurau rheoli y maen nhw wedi’u mabwysiadu, sicrhau cyngor am ba mor ddigonol yw’r mesurau, a chynyddu’r tebygrwydd y bydd y mesurau hynny’n dderbyniol fel rhai sy’n gyfystyr ag amddiffyniad o ddiwydrwydd dyladwy (due diligence), os bydd angen hynny. Er hynny, yn y pen draw, os ceir erlyniad, mater i’r Llysoedd fyddai pa mor ddigonol oedd gweithdrefnau diwydrwydd dyladwy gweithgynhyrchwr.

Yn ôl i’r brig

Cyfraith Sifil

Yn ychwanegol at y gyfundrefn trosedd, mae rhwymedigaeth yn gallu codi hefyd mewn cyfraith sifil o dan y darpariaethau ynglŷn â’r rhwymedigaeth ar gyfer cynhyrchion yn Neddf Diogelu Defnyddwyr 1987 neu o dan y gyfraith gyffredin ar esgeulustod.

Deddf Diogelu Defnyddwyr 1987

O dan Ddeddf Diogelu Defnyddwyr 1987 (CPA), gall gweithgynhyrchwr fod yn atebol i ddefnyddwyr am anaf, colled neu niwed a ddioddefir am eu bod wedi cyflenwi cynnyrch diffygiol2, p’un a ydyn nhw’n esgeulus neu beidio.

Esgeulustod

Mewn esgeulustod, mae wedi’i gydnabod ers tro byd fod gweithgynhyrchwyr o dan ddyletswydd gofal tuag at eu defnyddwyr i gyflenwi cynhyrchion diogel. Er mwyn cyflawni eu dyletswydd yn foddhaol, mae’n ofynnol iddyn nhw gymryd pob cam y byddai gweithgynhyrchwr rhesymol wedi’i gymryd o dan yr un amgylchiadau er mwyn sicrhau bod ei gynhyrchion yn ddiogel.

Goblygiadau labelu

Bydd safle gweithgynhyrchwr o dan Ddeddf Diogelu Defnyddwyr 1987 ynglŷn â chyflenwi cynnyrch diffygiol ac o dan y rheolau ar esgeulustod yn amrywio o dan wahanol amgylchiadau ac mae’n bosibl y bydd/na fydd hysbysiadau cynghori yn effeithio ar hynny.

Presenoldeb anfwriadol

Ni fydd alergenau sy’n bresennol neu a allai fod yn bresennol yn anfwriadol mewn cynhyrchion yn cael eu labelu fel cynhwysion.

O dan Ddeddf Diogelu Defnyddwyr 1987, gall cynnyrch sydd wedi’i groeshalogi’n anfwriadol ag alergen fod yn ddiffygiol, yn enwedig os yw’r presenoldeb hwnnw y tu allan i’r fanyleb. Wedyn mae’r cwestiwn yn codi a fydd cyngor ynghylch presenoldeb posibl yr alergen yn cywiro diffyg o’r fath. Fe allai gallu cyngor o’r fath i gywiro diffyg o’r fath ddibynnu ar nifer o ffactorau (er enghraifft maint ac amlygrwydd y datganiad cynghori a disgwyliadau’r defnyddwyr ynghylch natur y cynnyrch) a châi ei benderfynu ar sail pob achos unigol.

Gellir barnu bod gweithgynhyrchwr yn esgeulus naill ai wrth weithgynhyrchu’r cynnyrch neu wrth ei gyflwyno. Os oes arferion gweithgynhyrchu da neu fesurau eraill ar gyfer diwydrwydd dyladwy wedi’u sefydlu, byddant yn gwneud llawer i brofi na fu esgeulustod yn y gweithgynhyrchu. Serch hynny, fe allai gweithgynhyrchwr fod yn esgeulus o ran ei labeli pe bai’n methu â rhoi cyngor mewn sefyllfa lle y dylai’r gweithgynhyrchwr fod wedi bod yn ymwybodol ei bod yn bur debyg bod cynhyrchion wedi’u halogi, er bod arferion gweithgynhyrchu da ar waith.

Yn ymarferol, bydd yn mynd yn fwy anodd i weithgynhyrchwr nad yw’n darparu’r cyngor perthnasol ddangos nad yw ei gynnyrch yn ddiffygiol o dan Ddeddf Diogelu Defnyddwyr 1987, neu nad yw’n esgeulus wrth labelu ei gynnyrch os oes nifer arwyddocaol o gyflenwyr eraill wrthi’n rhoi cyngor ar bresenoldeb posibl alergenau yn eu cynhyrchion.

Iawn i ddefnyddwyr

Mewn cyfraith sifil, mae gan ddefnyddwyr unigol yr hawl i ddwyn achos yn erbyn gweithgynhyrchwyr yn uniongyrchol am iawndal ar gyfer unrhyw golled, niwed neu anaf y maen nhw wedi’u dioddef.

Mae gweithgynhyrchwyr sy’n defnyddio arferion gweithgynhyrchu da yn lleihau’r risg y caiff eu cynhyrchion bwyd eu croeshalogi ag unrhyw alergenau, ac felly fe ddylen nhw leihau eu rhwymedigaeth gyfreithiol o ran honiadau ar y pecyn neu arwyddion eraill fod y cynhyrchion yn rhydd rhag alergenau penodedig. Er hynny, fe allai darparu rhestr anghywir ddod â gweithgynhyrchwyr o’r fath o dan y rheolau ar ddiogelwch bwyd a diogelu defnyddwyr a ddisgrifiwyd uchod, ac felly mater ar gyfer barn fasnachol cwmnïau yw penderfynu a ddylai honiadau o’r fath gael eu gwneud neu a ddylai rhestrau o’r fath gael eu llunio neu beidio. Ni ddylid rhoi cyngor o’r fath oni bai bod system ansawdd sydd wedi’i chofnodi’n briodol i’w ategu.

Yn ôl i’r brig

1 Rheoliadau Bwyd Cyffredinol (Gogledd Iwerddon) 2004, Rheol Statudol Rhif 505/2004
2 Diffinnir cynnyrch diffygiol fel un lle nad yw diogelwch y cynnyrch fel y mae gan bersonau yn gyffredinol hawl i’w ddisgwyl. Mae’r meini prawf yn cynnwys unrhyw gyfarwyddiadau neu rybuddion a roddir gyda’r cynnyrch a’r hyn y byddai’n rhesymol disgwyl iddo gael ei wneud â’r cynnyrch.