Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn egluro pa wybodaeth bersonol rydym yn ei chasglu pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer yr Hyfforddiant Ar-lein ar Alergedd ac Anoddefiad Bwyd yn allergytraining.food.gov.uk, sut rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon, a’ch hawliau.
Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yw ‘Rheolydd’ yr wybodaeth bersonol rydych chi’n ei rhoi i ni. Mae hyn yn golygu ein bod ni’n penderfynu sut a pham y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio.
Rydym yn casglu, yn defnyddio ac yn storio eich gwybodaeth bersonol i wneud y canlynol:
Rydym yn gwneud hyn fel rhan o’n gwaith i addysgu pobl am alergeddau ac anoddefiadau bwyd, ac i gefnogi ein cyfrifoldebau o dan Ddeddf Safonau Bwyd 1999. O dan Reoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) y DU, ein sail gyfreithiol dros ddefnyddio’r wybodaeth hon yw ei bod hi’n angenrheidiol i ni allu cyflawni ein tasgau cyhoeddus fel corff llywodraethol.
Dim ond yr wybodaeth bersonol sydd ei hangen arnom rydym yn ei chasglu, a dim ond at y dibenion a nodir yn yr hysbysiad hwn y byddwn yn ei defnyddio.
Ni fyddwn ni’n datgelu eich gwybodaeth bersonol i unrhyw un heblaw’r rhai sydd wedi’u crybwyll uchod.
Dim ond cyhyd ag y bo hynny’n angenrheidiol y byddwn ni’n cadw eich gwybodaeth bersonol, ac yn unol â’n polisi cadw.
Mae’r holl wybodaeth bersonol yn cael ei storio ar weinyddion yn y DU.
Mae ein gwasanaethau cwmwl wedi’u caffael drwy gytundebau fframwaith y llywodraeth a’u hasesu yn erbyn egwyddorion diogelwch cwmwl y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol.
Nid ydym yn rhannu eich gwybodaeth bersonol ag unrhyw un arall oni bai bod hyn yn ofynnol yn ôl y gyfraith, neu fod gennym awdurdod cyfreithiol i’w rhannu.
Gallwn rannu gwybodaeth ag adrannau eraill y llywodraeth, cyrff cyhoeddus a sefydliadau sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus os yw hynny’n eu helpu i gyflawni eu dyletswyddau statudol neu os yw hynny er budd y cyhoedd.
Mae gennych hawl i ofyn am gopi o’r wybodaeth bersonol rydym yn ei chadw amdanoch.
Os ydych o’r farn bod unrhyw wybodaeth sydd gennym yn anghywir, gallwch ofyn i ni ei chywiro.
Os oes gennych unrhyw bryderon am y ffordd rydym wedi defnyddio neu drin eich gwybodaeth bersonol, gallwch gysylltu â’n Swyddog Diogelu Data, a fydd yn ymchwilio i’ch cwyn.
Os nad ydych chi’n fodlon ar ein hymateb neu os ydych chi o’r farn ein bod ni’n prosesu eich gwybodaeth bersonol mewn modd anghyfreithlon, gallwch gwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).
Os oes gennych gwestiynau ynghylch sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â’n Swyddog Diogelu Data yn information.governance@food.gov.uk.