Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i hyfforddiant ar-lein yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ar alergeddau ac anoddefiadau bwyd.
Mae’r hyfforddiant ar-lein hwn yn cael ei gynnal gan yr ASB. Rydym yn awyddus i gynifer o bobl â phosib allu defnyddio’r gwasanaeth hwn. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech chi allu gwneud y canlynol:
Rydym hefyd wedi gwneud y testun mor syml â phosib i’w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os ydych yn berson anabl.
Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch. Gallwch chi weld rhestr lawn o unrhyw broblemau rydym yn ymwybodol ohonynt ar hyn o bryd yn yr adran ‘Cynnwys nad yw’n hygyrch’ yn y datganiad hwn.
Os oes angen gwybodaeth o’r wefan hon arnoch chi mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, fersiwn hawdd ei deall, recordiad sain neu braille, gallwch chi:
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon, neu os ydych chi o’r farn nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, gallwch chi:
Darllenwch gyngor ar gysylltu â sefydliadau am wefannau anhygyrch.
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych chi’n fodlon ar sut rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).
Os ydych chi yng Ngogledd Iwerddon, ac nad ydych chi’n fodlon ar sut rydym yn ymateb i’ch cwyn, gallwch gysylltu â Chomisiwn Cydraddoldeb Gogledd Iwerddon sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’) yng Ngogledd Iwerddon.
Mae’r ASB wedi ymrwymo i wneud cynnwys ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018..
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA fersiwn 2.2 o’r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe oherwydd yr achosion o ddiffyg cydymffurfio a restrir isod.
Mae’r cynnwys a restrir isod yn anhygyrch am y rhesymau canlynol.
Datblygwyd yr hyfforddiant ar-lein hwn gan ddefnyddio system rheoli dysgu ac adnodd awduro trydydd parti. Er i ni wella’r problemau o fewn ein rheolaeth ni, mae rhai problemau hygyrchedd yn dal i fod yn bresennol mewn rhai rhannau y mae’r platfform sylfaenol a’r offeryn awduro yn eu darparu. Rydym yn gweithio gyda’r cyflenwr i wella’r hygyrchedd a byddwn yn parhau i adolygu a diweddaru’r datganiad hwn wrth i ni weithio trwy’r gwelliannau.
Mae trawsgrifiad llawn ar ffurf testun yn unig wedi’i ddarparu o’r cynnwys y gallai rhywun ei ddefnyddio i wella hygyrchedd. Mae’r trawsgrifiad yn cynnwys elfennau rhyngweithiol â swyddogaethau anhygyrch.
Efallai na fydd rhywfaint o’r cynnwys ar gael yn ei gyfanrwydd i ddefnyddwyr technoleg gynorthwyol.
Nid yw rhai o’r delweddau, eiconau nac elfennau rhyngweithiol yn darparu gwybodaeth hygyrchedd lawn i’r rheiny sy’n defnyddio darllenwyr sgrin a thechnolegau cynorthwyol eraill. Mae hyn yn golygu na fyddai rhai defnyddwyr yn gallu cael mynediad i’r holl wybodaeth na’r holl swyddogaethau yn yr hyfforddiant.
Mae hyn yn methu’r canlynol:
Nid yw rhai penawdau, rhestrau, ffurflenni na negeseuon gwall wedi’u nodi’n gywir oherwydd y templedi ar y platfform, ac efallai nad yw rhywfaint o’r cynnwys yn cael ei gyflwyno i dechnolegau cynorthwyol yn y drefn gywir. Mae hyn yn golygu bod y rheiny sy’n defnyddio technolegau cynorthwyol o bosib yn cael rhywfaint o’r cynnwys yn anoddach i’w lywio a’i ddeall, er bod trawsgrifiad llawn ar wahân sy’n rhoi’r strwythur cywir..
Mae hyn yn methu’r canlynol:
Nid oes modd gweithredu rhai elfennau rhyngweithiol yn gyson wrth ddefnyddio bysellfwrdd, ac nid yw ffocws y bysellfwrdd wastad wedi’i reoli’n gywir. Hefyd, nid yw’r dangosyddion ffocws ar rai rheolyddion yn ddigon clir. Mae hyn yn golygu y gallai rhai defnyddwyr ei chael hi’n anodd llywio neu ryngweithio â rhannau o’r hyfforddiant.
Mae hyn yn methu’r canlynol:
Efallai y bydd yn anodd gweld rhywfaint o’r cynnwys, neu ei ddefnyddio, pan fydd defnyddwyr yn chwyddo tudalen y porwr, newid bylchau rhwng testun, neu’n defnyddio sgriniau llai. Mae hyn yn golygu y byddai defnyddwyr â golwg gwan yn ei chael hi’n anoddach cael mynediad at rywfaint o’r cynnwys.
Mae hyn yn methu’r canlynol:
Nid yw cyferbynnedd rhwng rhai rheolyddion, eiconau a thestunau a’u cefndir yn ddigonol oherwydd y templedi sydd ar gael. Mae hyn yn golygu efallai y bydd rhai defnyddwyr â golwg gwan neu ddiffyg golwg lliw yn cael rhannau o’r hyfforddiant yn anodd eu darllen neu eu hadnabod.
Mae hyn yn methu’r canlynol:
Os byddwch yn dod o hyd i broblem nad ydym wedi’i nodi eto, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o’r llwybrau a ddisgrifir yn yr adran ‘Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon’ yn y datganiad hwn.
Ar hyn o bryd, nid ydym wedi canfod unrhyw gynnwys sydd y tu hwnt i gwmpas y rheoliadau hygyrchedd.
Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar 30 Medi 2026. Cafodd ei adolygu ar 30 Medi 2026.
Cafodd y wefan hon ei phrofi ar 24 Awst 2026. AbilityNet oedd wedi ymgymryd â’r gwaith profi, ar ran yr Asiantaeth Safonau Bwyd. Roedd yr e-ddysgu wedi’i brofi ar sail gallu defnyddiwr i gwblhau’r hyfforddiant. Cafodd pob rhan o’r daith ei phrofi, gan gynnwys elfennau rhyngweithiol
Rydyn ni wedi cynhyrchu’r datganiad hygyrchedd hwn ymlaen llaw er mwyn helpu ein defnyddwyr a’r gofynion arnon ni o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus.