Croeso i hyfforddiant ar-lein yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar alergedd ac anoddefiad bwyd |
Cyflwyniad |
Datblygwyd yr hyfforddiant rhyngweithiol hwn gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ar gyfer swyddogion gorfodi Awdurdodau Lleol. Fodd bynnag, gallai hefyd fod o ddiddordeb i fusnesau a sefydliadau'r diwydiant bwyd, defnyddwyr ac eraill a hoffai ddysgu mwy am alergeddau bwyd a sut i drin alergenau yn ddiogel.
Mae bwyta’n ddiogel gydag alergedd bwyd yn her. Yr unig ffordd i reoli’r cyflwr yw osgoi’r bwyd sy’n achosi adwaith. Mae'n bwysig bod Gweithredwyr Busnesau Bwyd yn darparu bwyd diogel, a chyfrifoldeb Awdurdodau Lleol yw gorfodi'r rheolau mewn perthynas ag alergenau.
Yn y Deyrnas Unedig, mae tua:
|
Y modiwlau yn yr hyfforddiant hwn
Mae chwe modiwl sy’n cynnwys cwestiynau i wirio’ch gwybodaeth ar ddiwedd pob un. Bydd angen i chi gofrestru, ateb arolwg byr ac yna astudio’r modiwlau. Ar ôl i chi gwblhau pob modiwl, byddwch chi’n gallu cwblhau’r profion sy’n cael eu hasesu ar gyfer pob un. Bydd angen i chi basio profion pob un o’r 6 modiwl i gael eich tystysgrif. Bydd y bar cynnydd ar brif ddewislen y cwrs yn eich helpu i gadw cofnod o’ch cynnydd. |
Cam 1: Cofrestrwch, atebwch yr arolwg ac astudiwch modiwlau. Mae'r hyfforddiant yn cynnwys chwe modiwl sy'n ymwneud ag alergedd ac anoddefiad bwyd, gyda chwestiynau i wirio eich gwybodaeth ar ddiwedd pob modiwl.
Mae’r modiwlau hyn wedi’u rhannu yn ôl y themâu canlynol:
Cam 2: Ar ôl i chi gwblhau’r modiwlau, byddwch chi’n gallu sefyll profion y modiwlau. Os atebwch chi 85% o holl gwestiynau’r profion yn gywir, byddwch chi’n gallu lawrlwytho tystysgrif gwerth tair awr o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus i ddangos eich gwybodaeth. Mae’r dolenni i’r profion perthnasol i’w gweld ar ddiwedd pob modiwl. Os hoffech sefyll y prawf yn nes ymlaen, gallwch ddod o hyd i ddolen ar brif ddewislen y cwrs.
Tîm Gorsensitifrwydd i Fwyd yr ASB |